Cafwyd canlyniadau gwych i’r 3 band o Gymru a fu’n cystadlu ym Mhrif Adran Pencampwriaethau Bandiau Pres Cenedlaethol, a gynhaliwyd ddoe yn Neuadd Albert yn Llundain.

Llongyfarchiadau i Fand y Cory (3ydd safle), Band Tref Tredegar (4ydd) a Band Llwydcoed (7fed) a’u harweinwyr Philip Harper, Ian Porthouse a Joshua Ruck, a wnaeth argraff ar y beirniaid gyda’u perfformiadau o “Of Men and Mountains” gan Edward Gregson.

Diolch i safleoedd Cory a Thredegar, mae hyn yn golygu y byddant yn cymhwyso’n awtomatig ar gyfer y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol y flwyddyn nesaf, ac y bydd 2 fand Cymraeg ychwanegol yn gymwys i gynrychioli Cymru yn nigwyddiad 2024. Llongyfarchiadau a da iawn chi gyd!