Aelodaeth

DARGANFYDDWCH Y MANTEISION O FOD YN AELOD.

Mae 2 lefel aelodaeth ar gael.

Aelodaeth Band

Mae Aelodaeth Band yn agored i unrhyw Fand / Grŵp / Ensemble sydd wedi’i leoli yng Nghymru a bydd aelodau’n mwynhau POB budd a gynigir gan Fandiau Pres Cymru.

Aelodaeth Gysylltiol

Mae Aelodaeth Gysylltiol yn agored i unigolion neu bartneriaid a hoffai gefnogi ein gwaith a bydd ganddynt hawl i’r un buddion â Bandiau, ac eithrio unrhyw hawliau pleidleisio yn y sefydliad.

Waeth a ydych chi’n Fand sy’n cystadlu, yn fand ieuenctid neu’n Fand Cymunedol nad yw’n cystadlu, dyma rai rhesymau pam y dylech chi ymuno â Bandiau Pres Cymru – HEDDIW!

Bydd Bandiau Pres Cymru yn un “llais” cynrychioliadol ar gyfer pob band pres yng Nghymru. Sefydliad a fydd yn siarad ar eich rhan ac yn ymgysylltu â chymaint o sefydliadau ac unigolion perthnasol, i gynrychioli’r mudiad ar bob lefel, er mwyn atgyfnerthu a thyfu.

Gwefan gwbl ryngweithiol sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd; sy’n bwynt cyfeirio un stop i’r holl fandiau pres, chwaraewyr, gweinyddwyr a selogion yng Nghymru er mwyn darparu:

  • gwybodaeth ac arweiniad
  • adnoddau
  • newyddion a digwyddiadau
  • cyfleoedd i rwydweithio a chydweithio ag aelodau a rhanddeiliaid eraill
  • diweddariadau cyllido a help i ddod o hyd i’r potiau arian hynny y mae bandiau eraill yn llwyddo i’w cael, ond sy’n ddirgelwch i chi.
  • Nodwedd “Dod o Hyd i Fand” – Map Google sy’n dangos i ymwelwyr ble mae eu Band agosaf, gyda dolenni i’w gwefan a’u cyfryngau cymdeithasol eu hunain
  • tudalen Dyddiadur Digwyddiadau sydd, ar gip, yn dweud wrthych am BOB gweithgaredd a dyddiadau nodedig sy’n digwydd yng Nghymru ar unrhyw ddiwrnod penodol. Byddai’r rhain yn cynnwys:
    • Dyddiadau cystadlaethau
    • Cyngherddi gan fandiau sy’n aelodau
    • Cyngherddi gan artistiaid neu fandiau sy’n ymweld
    • Dyddiadau cau cofrestru ar gyfer cystadlu
    • Dyddiadau cyfarfodydd is-grwpiau (agored i’r cyhoedd) lle trafodir pynciau a phrosiectau penodol mewn manylder.
    • Gweithdai, seminarau, dosbarthiadau meistr a gweithgareddau a roddir gan sefydliadau partner
    • Dyddiadau cyrsiau grŵpiau cenedlaethol a rhanbarthol 

“Yr Hwb”. Safle arbennig i aelodau’r sefydliad, yn rhoi  mynediad arbennig i adnoddau ychwanegol a gostyngiadau unigryw yr ydym wedi’u brocera gyda’n sefydliadau partner. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • taflenni cerddoriaeth
  • cyrsiau hyfforddi a seminarau
  • costau aelodaeth i sefydliadau partner eraill
  • gwasanaethau a nwyddau gan fanwerthwyr a chyflenwyr i’r byd bandiau pres

Mae pob Band sy’n aelod yn dal hawliau pleidleisio cyfartal. Hynny yw, un band = un bleidlais sy’n golygu y bydd eich Band yn cael llais cyfartal sut mae’r Sefydliad yn cael ei redeg.

Hyn a llawer mwy …. ond yn bennaf oll – AM Y FLWYDDYN GYNTAF MAE’N RHAD AC AM DDIM!

Hoffem eich cael chi yn rhan o’r tîm. Cofrestrwch gyda Bandiau Prês Cymru heddiw!